Canolfan Gynadledda Abertawe
Mae Canolfan Gynadledda Abertawe yn cwmpasu mwyafrif o dref Abertawe gydag ystod o gyfleusterau cynadledda wedi'i dotio o amgylch y ddinas hardd.
Gyda staff cyfeillgar profiadol wrth law i gynnig gwasanaeth rhagorol, gallwn sicrhau y bydd eich digwyddiad yn llwyddiant. Mae digon o le i barcio ar y safle ac mae gennym ystod o ystafelloedd addas ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. Mae Abertawe yn ddewis gwych ar gyfer digwyddiadau canol y dref ac mae'n leoliad arbennig i rhwydweithio.
Cliciwch yma i gael golwg ar ein Llyfryn Cynadleddau
Wedi'i leoli yng nghalon y ddinas, mae Canolfan Gynadledda Abertawe yn le delfrydol i gynnal digwyddiad arbennig. Mae gennym ystafelloedd cynadledda a darlithfeydd gyda chyfarpar o'r radd flaenaf. Rhowch gipolwg ar ein bwydlenni blasus sy'n cynnwys bwyd poeth ac oer wedi'u paratoi'n ffres, ac sy'n addas as gyfer eich holl ofynion dietegol.
- Mae gennym nifer o ystafelloedd cynadledda eang a chyfforddus ar draws pob un o'n Campysau n Abertawe.
- Ardaloedd cofrestru a derbynfeydd
- Darperir wi-fi ledled y lleoliadau
- Arlwyo o’r radd flaenaf, gan gynnig ystod eang o fwydlenni cynhadledd i gyd-fynd â’ch cyllideb.
- Mae ein tîm o gogyddion dawnus bob amser wrth eu bodd i drafod opsiynau ar gyfer y fwydlen, gan gynnwys unrhyw ofynion a cheisiadau deietegol arbennig.
- Mae ein caffi's ar draws y campysau ar agor drwy'r wythnos ac wedi'u lleoli'n ganolog i'n cyfleusterau cynadledda.
- Ystod lawn o gyfleusterau clyweledol a thechnegol.
- Tîm cynadledda ymroddedig sy’n gweithio gyda chi i sicrhau bod y cyfarfod yn rhedeg yn union fel rydych yn ei ragweld.
- Digonedd o leoedd parcio yn ogystal â mynediad a pharcio i bobl anabl.
- Yn ystod gwyliau'r Brifysgol, mae gennym hyd at 80 o ystafelloedd gwely en-suite ar gyfer cynhadloedd preswyl ynghyd â ystafelloedd cyfarfod pellach.
Yr Ystafell Ddarllen Grwn
Mae'r Ystafell Ddarllen Grwn yn dal hyd at 100 o fobl steil theatr. Mae'n ystafell y medr ei haddasu'n hawdd gyda digon o le ar gyfer arddangosfeydd, cyflwyniadau a chynadleddau mawr. Wedi'i lleoli yng nghanol y ddinas, hen Lyfrgell Abertawe yw hi, ac mae'n ystafell hanesyddol hardd gyda phensaerniaeth Fictoraidd ynddi.
Neuadd Vivian
Mae Neuadd Vivian wedi'i lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas yng nghanol Abertawe ac mewn tafiad carreg o gampws SA1. Mae'n dal 110 o fobl steil cabaret a 150 o fobl steil theatr. Mae'n leoliad gwych i gynnal digwyddiad rhwydweithio neu hyd yn oed barti arbennig.
Ystafelloedd Eraill
Mae gan gampws SA1 nifer o wahanol ystafelloedd o wahanol feintiau gyda chyfleusterau TG o'r radd flaenaf. Mae gennym hefyd ystafelloedd cyfarfod, ystafelloedd bwrdd a chynadledda a darlithfeydd yng nghampws Dinefwr a champws Busnes Abertawe. Cysylltwch â ni i drefnu taith o amgylch ein campysau, cyfle da i gael sgwrs am yr hyn sydd gyda ni i gynnig ac sy'n addas ar gyfer eich gofynion chi.
Offer Ystafell Gynadledda a Llog Gwasanaethau
ARCHEBWCH NAWR
Mae Canolfan Gynadledda Abertawe yn cwmpasu mwyafrif o dref Abertawe gydag ystod o gyfleusterau cynadledda wedi'i dotio o amgylch y ddinas hardd.