Canolfan Lloyd Thomas, Llambed
Mae Canolfan Lloyd Thomas yn lleoliad mawr, prydferth ynghanol tref Llambed sy’n swatio yn nhroedfryniau Mynyddoedd Cambria yng Ngheredigion.
Dyma’r lleoliad cynadledda mwyaf poblogaidd yn ardal Ceredigion, ac mae’n adnabyddus am gynnal digwyddiadau blynyddol nodedig o gynadleddau i’r Eisteddfodau lleol. Gyda staff cyfeillgar, profiadol wrth law i gynnig gwasanaeth a chynllunio rhagorol i chi gydol yr amser, gallwn warantu y bydd eich digwyddiad yn llwyddiant. Mae digonedd o leoedd parcio ar y safle ac ystod o ystafelloedd sy’n addas ar gyfer pob math o ddigwyddiad.
Cliciwch yma i gael golwg ar ein Llyfryn Cynadleddau
Gallwn eich helpu i greu’ch cyfarfod perffaith yma yn Llambed lle bydd popeth yn cwympo i’w le, gan ddechrau gydag ystafell hyblyg sydd ag offer a chysylltiadau yn ôl eich dymuniad. Mae ein hystafelloedd yn amrywio o steil unigryw ystafell fwrdd glasurol i leoliad ag arddull fwy modern. Edrychwch ar ein bwydlenni blasus, o fwyd twym i ginio bys a bawd oer, yn addas ar gyfer yr holl ofynion deietegol ac wedi’u paratoi’n ffres gan ein cogyddion mewnol profiadol.
- Mae’r holl ystafelloedd cynadledda â golau dydd naturiol.
- Prif fan arddangos gyda rhagor o le arddangos ar gael yng nghyntedd Adeilad y Celfyddydau sydd newydd ei ailaddurno.
- Ardal i gofrestru a derbyn cynrychiolwyr.
- Darperir Wi-Fi ar draws y lleoliad i’ch cadw’n gysylltiedig.
- Arlwyo o’r radd flaenaf, gan gynnig ystod eang o fwydlenni cynhadledd i gyd-fynd â’ch cyllideb.
- Mae ein tîm o gogyddion dawnus bob amser wrth eu bodd i drafod opsiynau ar gyfer y fwydlen, gan gynnwys unrhyw ofynion a cheisiadau deietegol arbennig.
- Siop goffi 1822 gyferbyn â Neuadd y Celfyddydau, ar agor o 8.30 a.m. i 5.00 p.m. yn ystod yr wythnos.
- Ystod lawn o gyfleusterau clyweledol a thechnegol.
- Mae gweithfan ar gael yn ein prif swyddfa i argraffu er cyfleuster i chi.
- Tîm cynadledda ymroddedig sy’n gweithio gyda chi i sicrhau bod y cyfarfod yn rhedeg yn union fel rydych yn ei ragweld.
- Digonedd o leoedd parcio yn ogystal â mynediad a pharcio i bobl anabl.
- During University vacations periods we have up to 500 well-appointed standard & en-suite bedrooms available for residential conferencing along with a range of further conference and meeting rooms
Neuadd y Celfyddydau
Mae’r ystafell hon yn dal hyd at 400 o fobl mewn steil theatr ac yn ddelfrydol ar gyfer arddangosfeydd, cyflwyniadau a chynadleddau mawr.
Yr Hen Neuadd
Yn hanesyddol, hon yw hen ystafell fwyta Prifysgol Dewi Sant. Mae’n ystafell odidog gyda phaneli pren ar y welydd ac mae’n dal hyd at 120 o fobl steil theatr.
Theatr Cliff Tucker
Mae hon yn cynnig lle i eistedd 200 o fobl ac yn berffaith ar gyfer cynadleddau neu ddarlithoedd gyda siaradwyr gwadd. Gyda thair ystafell gyfagos sy’n dal rhwng 30-40 o fobl, mae’r theatr yn addas ar gyfer cynadleddau sy’n gofyn am ystafelloedd ymneilltuo.
Ye Hen Ystafell Fwrdd
Ystafell gyda chyfleusterau ar ffurf ystafell fwrdd ar gyfer 22 o fobl yw hon ac mae offer fideo-gynadledda ar gael ar gais.
Llyfrgell y Sylfaenwyr ac Ystafell Ryder
Mae hon yn berffaith ar gyfer cyfarfodydd neu gyflwyniadau arbennig. Mae’n cynnig lle i 50 o fobl mewn dull theatr gan gynnwys ardal lolfa ar wahan gyda seddi cyfforddus ar gyfer ymlacio neu i gael baned o goffi anffurfiol.
Neuadd Fwyta Lloyd Thomas
Dyma’r lleoliad arlwyo mwyaf yng Ngheredigion. Mae’n ystafell gyfoes, eang ac yn olau gyda drysau yn arwain allan at deras helaeth.
Ystafelloedd Eraill
Ystafell gyfarfod ar ei newydd wedd wedi’i lleoli yn adeilad Caergaint sy’n cynnwys cyfleusterau fideo-gynadledd. Mae gennym sawl ystafell arall sy’n addas ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau a chyfarfodydd sy’n amrywio o ystafelloedd bach i 10 o fobl i ystafelloedd mwy sy’n dal 30 o fobl.
Offer Ystafell Gynadledda a Llog Gwasanaethau
ARCHEBWCH NAWR
Mae Canolfan Lloyd Thomas, Llambed yn leoliad mawr gydag ystod eang o ystafelloedd i
weddu i unrhyw ddigwyddiad. Mae wedi’i lleoli ynghanol y dref,
gyda meysydd parcio ar y safle ac yn gyfleus i drafnidiaeth gyhoeddus.