Lleoliad Cymru yw’r dewis delfrydol ar gyfer eich cyfarfod, cynhadledd neu ddigwyddiad. Mae cydlynydd digwyddiadau penodedig wrth law, ac mae popeth ar gael yn ein canolfan gynadledda i gynnal eich cyfarfod mewn steil, boed yn gyfarfod tîm bach neu gynhadledd i 200 o gynrychiolwyr.
CAERFYRDDIN | LLAMBED | ABERTAWE
A ninnau wedi ein lleoli ond pellter byr ar droed o dref hynafol Caerfyrddin, o fewn canol tref hyfryd Llambed ac ynghanol Canol Dinas fywiog Abertawe, mae Lleoliad Cymru yn cynnig agwedd unigryw a ffres tuag at eich anghenion o ran cynadleddau, digwyddiadau a phriodasau. Gydag amrywiaeth helaeth o fannau cynadledda ar draws ein dau gampws gwledig prydferth a’n lleoliad newydd ynghanol y ddinas, ni yw’r lleoliad delfrydol i chi ar gyfer unrhyw achlysur yn ne-orllewin Cymru.
P’un ai ydych yn trefnu cynhadledd breswyl, cyfarfod neu ginio dathlu, edrychwch ddim pellach na Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant