LLAMBEDBwyd o'r galon
Beth mae pobl yn ei gofio o bron pob digwyddiad? ... y bwyd!
Mae ystafell fwyta hardd Lloyd Thomas yn cynnig lle i fwy na dau gant o bobl, gyda bwydlenni a phrydau bwyd at bob dant a chyllideb. Mae prydau bwyd cartref blasus yn cael eu paratoi’n ffres gan ein tîm o gogyddion mewnol profiadol, gan ddefnyddio cynhwysion lleol a gweithio’n ôl y safonau hylendid uchaf.
Rydym yn gallu arlwyo ar gyfer unrhyw fath o ofynion deietegol a bydd ein tîm yn helpu i’ch arwain drwy’r holl opsiynau sydd ar gael er mwyn sicrhau diwallu’ch anghenion. Gellir darparu cinio bys a bawd o bob math yn eich ystafell gynadledda - yn addas at eich anghenion a’ch cyllideb.
Beth am ychwanegu Pice ar y Maen blasus neu Fara Brith traddodiadol i'ch egwyl te a choffi masnach deg? - bydd eich cynrychiolwyr yn dwlu arnynt!
Caffi 1822
Yng Nghaffi 1822 mae caffi Starbucks gydag amrywiaeth flasus o baguettes, bara fflat a thato pob ffres wedi’u llenwi, a byrbrydau twym eraill. Beth am fwynhau ychydig o sgwariau cacen cartref gyda’ch coffi?!
Oriau Agor (Oriau Amser Tymor)
8:30am – 3:30pm Mon to Thurs (Click and Collect via the App, Eat In and Takeaway)
8:30am – 3:00pm Fri
10:00am – 2:00pm Mon to Fri (Click and Collect via the App)
Open Saturday’s upon request
“Wedi bwyta fel brenhines" – Academi Wales Mehefin 2018
“Rhagorol iawn ymhob agwedd, pobl gyfeillgar iawn” – Victor Evute Gorffennaf 2018