Llety Grŵp

Mae ein llety yn Llambed yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau bach a mawr, gyda dewis o lety en-suite neu safonol.

Mae’r ystafelloedd cyfforddus ar ein campws tawel â thirwedd brydferth hefyd yn cynnig cyfleoedd twristaidd helaeth yn y cyffiniau, gan ei wneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer grwpiau ar daith. Ar gyfer cynadleddau mae amrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod cyfforddus ar gael ar y campws a fydd yn addas i bawb.

Welsh soap, accommodation towels
Lloyd Thomas Accommodation, twin room en suite

Neuadd Lloyd Thomas

Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Lloyd Thomas, mae hon yn lleoliad delfrydol i orffwys wedi diwrnod hir.

Mae gennym 22 o ystafelloedd sydd ar gael gydol y flwyddyn ac yn cynnwys ystafelloedd sengl, rhai â dau wely, neu wely dwbl. Mae’r holl ystafelloedd en-suite hyn i’w cael yn agos at y neuadd fwyta, y siop goffi, a’r ystafelloedd cynadledda a chyfarfod. At hynny, mae canol tref Llambed ar stepen y drws gyda’i hamrywiaeth o siopau bach annibynnol.

Lloyd Thomas 1 + 3, Carl Lofmark, Roderick Bowen, Edwin Morris (tymhorol yn unig)

Mae’r blociau llety mawr hyn wedi eu rhannu’n fflatiau cyfforddus lle ceir rhwng 4 ac 8 o ystafelloedd en-suite, gyda chegin gymunedol ym mhob un. Mae gennym gyfanswm o 204 o ystafelloedd en-suite sengl ar y campws.

Mae celfi ymarferol ar gael ymhob ystafell en-suite sef desg, wardrob a set o ddroriau ar gyfer eich eiddo. Gellir trefnu neilltuo blociau os ydynt ar gael, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Mae Wi-Fi rhad ac am ddim ar gael ym mhob ystafell.

Neuaddau John Richards a Simon Evans (ar gael yn dymhorol)

Maent yn cynnig 96 o ystafelloedd sengl safonol ar y campws, rhai ohonynt â’i sinc ymolchi’i hun. Ymhob ystafell ceir celfi cyfforddus sef desg, wardrob a chadair gyfforddus ynghyd â lle astudio. Mae’r ystafelloedd hyn yn ddelfrydol ar gyfer y rheini y mae arnynt eisiau llai o gost ac maent yn ddelfrydol ar gyfer adeiladu tîm. Mae Wi-Fi rhad ac am ddim ar gael yn yr ystafelloedd hyn.

Prif Nodweddion Ystafell

  • Ystafell hygyrch
  • Ystafelloedd Dim Ysmygu 100%
  • Derbynfa a Staff Diogelwch ar gael 24 awr
  • Parcio dros nos am ddim
  • Caffi ar y safle*
  • Aelodaeth tymor byr i’r gampfa ar gael

*oriau agor penodol

Mwynderau Ystafell

  • Mynediad Di-Wifr Cyflym
  • Dillad gwely
  • Gwasanaeth cadw tŷ*
  • Bwrdd Haearn/Smwddio ym mhob fflat
  • Dillad gwely moethus ar gael*
  • Gellir trefnu archebu bloc cyfan os ar gael

*gofynnwch am fanylion

Arhoswch gyda ni – Archebwch nawr

Gallwn deilwra pecyn gwesty unigryw ar eich cyfer – p’un a’i Gwely a Brecwast neu bwrdd llawn fyddai o ddiddordeb i chi.

cyCY