Arlwyo at bob dant

O giniawau ffurfiol â thri neu ragor o gyrsiau at ginio bys a bawd, o farbeciw i fwyd stryd - gall ein tîm o gogyddion mewnol profiadol greu gwledd i dynnu dŵr o’r dannedd, sy’n addas i unrhyw gyllideb. Gan ddefnyddio cynhwysion lleol lle bo’n bosibl cynhyrchir ein bwyd i gyd yn ôl y safonau iechyd a hylendid uchaf.

Gweinir ein prif brydau bwyd ym mwyty hyfryd Myrddin gyda seddau i hyd at 200 o gynadleddwyr. Ym misoedd yr haf defnyddir y patio hardd yn gyflawn gan gynrychiolwyr yn mwynhau egwyl haeddiannol yn ystod cinio neu bryd nos.

Gellir darparu cinio bys a bawd o bob math yn eich ystafell gynadledda - yn addas at eich anghenion a’ch cyllideb.

Beth am ychwanegu Pice ar y Maen blasus neu Fara Brith traddodiadol neu hyd yn oed ein sgwariau cacen cartref ar gyfer eich egwyl te a choffi masnach deg – bydd eich cynrychiolwyr yn dwlu arnynt!

Yn ystod eich taith gynadledda, byddwn yn eich arwain drwy’r ystod o opsiynau sydd ar gael er mwyn lleihau’r straen gymaint â phosibl.

Fel arall, gallwch ymweld ag un o'n canolfannau arlwyo amrywiol i gael lluniaeth a bwyd blasus

Caerfyrddin | Llambed | Abertawe

“Roedd yr arlwyo ar gyfer pobl ag anghenion penodol iawn yn wych, e.e. roedd y fenyw roedd arni angen bwyd di-glwten yn hapus iawn am ei bod fel arfer yn mynd â’i bwyd ei hun gyda hi i unrhyw ddigwyddiad. Roedd hi’n ddiolchgar iawn bod y cogydd yn fodlon arlwyo ar ei chyfer, fel roedd y ddau berson figan ag alergedd i wenith.” Say Something in Welsh Gorffennaf 2018

ARCHEBWCH EICH CATERING NAWR

Gellir darparu cinio bys a bawd o bob math yn eich ystafell gynadledda - yn addas at eich anghenion a’ch cyllideb.

cyCY