Archesgob Noakes
Mae’r rhan fwyaf o’r llety sydd ar gael ar gampws Caerfyrddin yma. Mae pob adeilad wedi’i rannu’n naw fflat groesawgar o wyth ystafell, gyda lolfa gymunedol gyfforddus a chegin ymhob un. Y preswylwyr yn unig sydd â mynediad i bob fflat, ac mae allwedd unigol ar gael ar gyfer pob ystafell. Mae gan bob ystafell sengl gyfleusterau en-suite.
Myrddin
Yn y blociau safonol hyn mae hyd at 8 ystafell mewn uned gyda chegin fach, dau doiled ymhob bloc, un bath a chawod. Hefyd ymhob uned mae lolfa fach gyfforddus sydd ar gael at ddefnydd gwesteion.
Mae gan bob ystafell sinc ymolchi, felly ni fydd angen ciwio i frwsio'ch dannedd yn y bore! Gyda wardrob gosod a lle astudio, mae’r ystafelloedd hyn yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau sy’n gallu mwynhau’r lle cwrt awyr agored ar gyfer adeiladu tîm a gemau.
Non
Mwy na 70 o ystafelloedd mewn lleoliad canolog a phedair uned ac yn rhannu cyfleusterau cawod, toiled a chegin. Yn Non ceir dwy fflat en-suite, sy’n ddelfrydol ar gyfer arweinwyr grŵp a chydlynwyr. Mae gan bob ystafell safonol ei sinc ymolchi a wardrob gosod ei hun, ynghyd â desg
Prif Nodweddion Ystafell
- Ystafell hygyrch
- Ystafelloedd Dim Ysmygu 100%
- Derbynfa a Staff Diogelwch ar gael 24 awr
- Parcio dros nos am ddim
- Caffi ar y safle*
- Aelodaeth tymor byr i’r gampfa ar gael
*oriau agor penodol
Mwynderau Ystafell
- Mynediad Di-Wifr Cyflym
- Dillad gwely
- Gwasanaeth cadw tŷ*
- Bwrdd Haearn/Smwddio ym mhob fflat
- Dillad gwely moethus ar gael*
- Block exclusivity arranged if available
*gofynnwch am fanylion
Arhoswch gyda ni – Archebwch nawr
Gallwn deilwra pecyn gwesty unigryw ar eich cyfer – p’un a’i Gwely a Brecwast neu bwrdd llawn fyddai o ddiddordeb i chi.