Cwestiynau Cyffredin
Bydd gan y mwyafrif o'ch gwesteion gwestiynau am eich diwrnod neu ddigwyddiad mawr, dyma'r rhai pwysig i'w cynnwys ar eich tudalen Cwestiynau Cyffredin
Cyffredinol
Mae systemau parcio ceir 24 awr ar holl Gampysau PCYDDS. Sicrhewch fod gyrwyr wedi talu i barcio o fewn 30 munud o gyrraedd.
- £1.50 - hyd at 4 awr
- £2.50 - y dydd
- £5 - 24 awr
Mae peiriannau talu yn y meysydd parcio ac mae opsiynau Talu dros y Ffôn ar gael. Bydd peidio â thalu yn arwain at gyhoeddi Hysbysiadau Taliadau Parcio (PCN) gan ein Darparwr Gorfodi Parcio, Parking Eye.
Cyfrifoldeb y gyrrwr yw sicrhau bod eu cerbyd wedi’i gofrestru, ac ni fydd PCYDDS yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw PCN a gyhoeddir am beidio â thalu. Fodd bynnag, gellir apelio yn erbyn PCN, a rhaid gwneud hynny’n uniongyrchol i Parking Eye. Ceir manylion sut i apelio ar y PCN ei hun.
Gall yr holl gynrychiolwyr a gwesteion elwa ar Wi-Fi rhad ac am ddim ymhob safle. Fel prifysgol rydym yn defnyddio eduroam yn ddarparwr Wi-Fi, felly gall unrhyw staff neu fyfyrwyr sy’n ymweld o sefydliadau addysgol eraill fewngofnodi drwy ddefnyddio eu manylion mewngofnodi prifysgol presennol.
Ar gyfer cynadleddau dydd a gwesteion preswyl, darperir talebau Wi-Fi gwesteion drwy arweinydd y digwyddiad. Bydd angen taleb ar gyfer pob dyfais.
Mae cyfleusterau diogelwch a derbyn 24 awr ar bob campws lle mae staff cymorth cyntaf ar gael i ddelio ag unrhyw argyfwng y tu allan i oriau.
Gellir derbyn nwyddau drwy’r post yn ystod eich arhosiad, fodd bynnag y derbynnydd sy’n gyfrifol am unrhyw gostau postio/cludo.
Mae nifer o gaffis ar y safle ac maent ar gael i westeion yn ystod eu horiau agor. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.
Cynadleddau a Digwyddiadau
Mae hyn yn ddibynnol ar gytundeb. Efallai bydd modd i drefnwyr eu sefydlu eu hun y noson gynt, fodd bynnag yn achlysurol gallai cyfarfod neu gynhadledd gyda’r nos atal mynediad.
Mae mynediad i bobl anabl ar gael ymhob ystafell gynadledda yng Canolfan Halliwell gyda ramp a lifft cadeiriau olwyn. Fodd bynnag mae gan, Canolfan Lloyd ThomasGanolfan Lloyd Thomas ystafelloedd â mynediad i bobl ag anawsterau symudedd.
Mae system anwytho sain ar gael i bobl â nam ar y clyw yng Nghanolfan Halliwell a Chanolfan Lloyd Thomas.
Oes mae gennym gyfleusterau cynadledda drwy fideo a’r ffôn. Cysylltwch â’r tîm archebion am ragor o fanylion.
Ni chaniateir i drefnwyr ddod â’u bwyd eu hun na chwmni arlwyo i mewn. Mae gwasanaeth arlwyo gan Ganolfan Halliwell a Chanolfan Lloyd Thomas y gellir ei drefnu ymlaen llaw. Boed yn ginio bys a bawd neu lety â phrydau llawn gallwch fod yn siŵr bod ein prydau bwyd i gyd yn cael eu paratoi’n ffres gan ein tîm o gogyddion dawnus. Gallwn greu pecyn prydau sy’n addas at bob gofynion - gofynnwch am fanylion ein dewisiadau arlwyo helaeth ask for details of our extensive catering options.
Mae ein cogyddion yn brofiadol iawn wrth ddarpau prydau bwyd sy’n bodloni’r rhan fwyaf o anghenion deietegol. Bydd angen yr wybodaeth hon adeg cadarnhau’r archeb. Rydym yn cynnig ystod amrywiol o fwydlenni sy’n addas at unrhyw anghenion. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw alergeddau difrifol neu unrhyw ofynion deietegol penodol. Byddwn yn hapus iawn i drafod anghenion penodol gyda chi.
Anfonir anfoneb at eich cwmni ar ôl eich digwyddiad. Anfonir yr anfoneb atoch drwy e-bost a gofynnir am daliad o fewn 30 diwrnod i’w dderbyn. Efallai bydd angen blaendal ar gyfer archebion mwy sylweddol. Esbonnir niferoedd terfynol yn ein telerau ac amodau a fydd yn dod gyda’ch ffurflen archebu.
Grwpiau Preswyl a Llety
Er mwyn cwrdd â’n targedau cynaliadwyedd, ar gyfer arhosiadau hirach newidir dillad gwely unwaith yr wythnos gyda thywelion yn cael eu newid bob tri diwrnod (yn amodol ar drefniadau’r grŵp).
Yng Nghaerfyrddin a Llambed ceir cyfleusterau hamdden a darpariaeth chwaraeon ar y safle. Gall unigolion drefnu aelodaeth dros dro o’r gampfa tra gall grwpiau preswyl archebu darpariaeth a chyfleusterau chwaraeon ar adegau penodol drwy’r staff cynadledda ar y campws.
Mae gennym gyfleusterau golchi dillad i’w defnyddio ar gyfraddau rhesymol.
Hefyd gall gwesteion ddefnyddio cyfleusterau Undeb y Myfyrwyr (oriau agor cyfyngedig yn ystod adeg gwyliau). Rhaid i grwpiau preswyl archebu’r gwasanaethau hyn ymlaen llaw drwy ein staff cynadledda.
Mae pob un o’n campysau mewn lleoliad delfrydol i archwilio de, canolbarth a gorllewin Cymru i gyd, yn ogystal â bod yn agos iawn at arfordir ffantastig Cymru a Llwybr Arfordir Cymru.
Mae cestyll ac ystadau cefn gwlad hanesyddol ar stepen y drws, tra mae Caerdydd, Abertawe, Penrhyn Gŵyr a Sir Benfro oll o fewn pellter teithio byr ynghyd â nifer o ganghennau Amgueddfa Cymru i gael diwrnod allan gwych. Siaradwch â’n staff cynadledda gwybodus a fydd yn gallu eich cyfeirio tuag at wneud y gorau o’ch diwrnodau allan.
Priodasau
Mae capel ar y safle gan Ganolfan Halliwell a Chanolfan Lloyd Thomas, fodd bynnag bydd angen bod gennych ymlyniad â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Hefyd mae gan Ganolfan Lloyd Thomas drwydded i gynnal seremoni briodas yn yr Hen Neuadd a Llyfrgell y Sylfaenwyr.
Gallwch, gallwch ollwng cynlluniau byrddau, cardiau enwau, anrhegion gwledd briodas ac ati'r diwrnod cyn eich priodas.
Yes, we have high chairs available which you are welcome to use.
Os oes arnoch angen microffon a system sain, gellir eu darparu ar gyfer areithiau. Rydym yn darparu’r rhain yn rhad ac am ddim gyda rhai o’n pecynnau.
Er mwyn cydymffurfio â’n Trwydded Mangre ac er mwyn rhoi ystyriaeth i drigolion lleol, rhaid i bob parti priodas orffen erbyn 12 hanner nos.
We need an idea of your final numbers 6 weeks prior to your wedding date and actual final numbers need to be confirmed 4 weeks before your wedding.
Pan ddewch i gael taith o gwmpas gallwn roi rhestr cysylltiadau gynhwysfawr i chi gyda manylion cyflenwyr lleol megis ffotograffwyr, gwerthwyr blodau, gwneuthurwyr cacennau ac ati.
Mae’n hanfodol ein bod yn cynnig arlwyo o safon uchel gyson ac felly rydym yn cynnig ein harlwyo rhagorol ein hun yn unig.
Ydyn, cyhyd â’n bod yn gwybod ymlaen llaw gallwn arlwyo ar gyfer pob angen deietegol.
Yes, you may bring in your own Wine and champagne however we do request a corkage service of £7.50 per bottle. If there is something specific you would like to offer to your guests which isn’t on our wine list we will be happy to try and source it on your behalf.
Anyone aged 12 and under is classified as a child.
A deposit of £500 is required at the time of booking. You will be invoiced the final amount 30 days prior to your wedding. The invoice will be sent to you by email and payment is requested within 30 days of receipt.