Canolfan Halliwell, Caerfyrddin

Mae Canolfan Halliwell yn lleoliad cynadledda pwrpasol sydd ar gael drwy’r flwyddyn ac yn ddelfrydol ar gyfer cynadleddau dydd a phreswyl. Mae ein hystafelloedd yn sicrhau bod gan ein gwesteion y cyfleusterau cynadledda modern angenrheidiol i wneud pob cynhadledd yn llwyddiant.

Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid ac yn ymdrechu i greu naws gartrefol. Mae hyn, ar y cyd â’n dewisiadau arlwyo blasus ac amrywiol, yn sicrhau y cewch chi a’ch gwesteion brofiad cofiadwy.

Cliciwch yma i gael golwg ar ein Llyfryn Cynadleddau

 

Mae Canolfan Halliwell yn Cynnig y Canlynol i Chi...

Canolfan Halliwell yw’r lleoliad perffaith ar gyfer pob math o ddigwyddiad corfforaethol, ac mae wedi’i lleoli ar gyrion tref farchnad Caerfyrddin gyda chysylltiadau trafnidiaeth da i dde a gorllewin Cymru.

P’un a ydych yn cynllunio cynhadledd, lansiad, neu ddigwyddiad rhwydweithio, gallwn helpu i sicrhau y bydd yn llwyddiant. Mae dewis eang o ystafelloedd cyfarfod hyblyg ar gael gydol y dydd a’r nos, ac mae i bob un ei harddull a’i naws unigryw. Mae offer clyweledol o’r radd flaenaf ar gael i’w logi ac mae Wi-Fi ar gael yn rhad ac am ddim ymhob ystafell.

Ni yw’r lleoliad cynadledda mwyaf poblogaidd yn yr ardal, gan gynnal cannoedd o gynadleddau’r flwyddyn, gyda staff profiadol a chyfeillgar wrth law i gynnig gwasanaeth rhagorol i chi a’ch arwain ar hyd eich taith gynadledda.

  • Mae ein holl ystafelloedd cynadledda â golau dydd naturiol ac offer clyweledol gosodedig.
  • Prif ystafell gynadledda eang a chyfforddus gyda lle i 200 o gynrychiolwyr.
  • Ystod o ystafelloedd cynadledda eraill â lle i eistedd o 40 i 100 o gynrychiolwyr.
  • Theatr gyda lle i 325 sy’n ddelfrydol ar gyfer cynadleddau, lansio cynnyrch, perfformiadau theatraidd a chyngherddau.
  • Prif fan arddangos o 210m² a rhagor o le arddangos ar gael.
  • Registration & Reception Area.
  • Darperir Wi-Fi yn rhad ac am ddim ar draws y lleoliad i’ch cadw’n gysylltiedig.
  • Gellir gwneud trefniadau hyblyg ynghylch dod â bwyd a lluniaeth atoch.
  • Arlwyo o’r radd flaenaf, gan gynnig ystod eang o fwydlenni cynhadledd i gyd-fynd â’ch cyllideb.
  • Restaurant & coffee shops located with the centre, open 8.00am to 6.30pm. (Seasonal)
  • Mae ein tîm o gogyddion dawnus bob amser wrth eu bodd i drafod opsiynau ar gyfer y fwydlen, gan gynnwys unrhyw ofynion a cheisiadau deietegol arbennig.
  • Mae gweithfan ar gael yn ein prif swyddfa i argraffu er cyfleuster i chi.
  • System anwytho sain i bobl â nam ar y clyw.
  • Tîm cynadledda ymroddedig sy’n gweithio gyda chi i sicrhau bod y cyfarfod yn rhedeg yn union fel rydych yn ei ragweld ac felly yn rhyddhau’r straen ar y trefnydd!
  • Parcio cyfyngedig ar gael.
  • Mynediad i bobl anabl i’r holl ystafelloedd.
  • During University vacations periods we have up to 340 well-appointed standard & en-suite bedrooms available for residential conferencing along with a range of further conference and meeting rooms.

Ystafell Cothi

Mae’r ystafell hon yn dal hyd at 200 o fobl mewn steil theatr. Mae ganddi far, llawr dawnsio a feranda gyda chelfi moethus, yn ddelfrydol ar gyfer diwrnodau braf o Haf.

cothi 1220x915
teifi 1220x915

Ystafell Teifi

Ystafell ddymunol sy’n dal uchafswm o 80 o fobl ar gyfer pryd ffurfiol neu 120 o fobl ar gyfer bwffe. Mae hon yn ystafell olau sy’n edrych allan dros ein gerddi hardd, heddychlon.

Ystafell Taf

Gall ystafell Taf ddal hyd at 40 o fob lar gyfer cyfarfodydd bach a sesiynnau hyfforddiant. Delfrydol ar gyfer cyfarfodydd mwy anffurfiol.

taf 1220x915
flemming 2 1220x915

Ystafell Flemming

Ystafell glasurol sy’n ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau bach. Mae ganddi seddi derw uchel i ddal hyd at 34 o fobl a byrddau bwyta.

Bwyty Myrddin

Mae hon yn ystafell ffasiynol amlbwrpas gyda ffenestri gwydr deniadol sy’n arwain allan at ardal batio fawr. Mae ganddi naws gyfoes gyda dodrefn niwtral, ysgafn, bar ei hun a llei i eistedd hyd at 220 o westeion.

merlin 1220x915
Theatre

Y Theatr

Mae’r theatr yn addas ar gyfer cynadleddau mwy o faint gan ei bod hi’n dal hyd at 325 o fobl. Y lleoliad perffaith ar gyfer lansiadau cynnyrch, siaradwyr gwadd, cyngherddau a chynyrchiadau theatrig.

Digwyddiadau Nos a Thymhorol

Mae gennym nifer fawr o ystafelloedd dosbarth yn ogystal a Ystafell yr Archesgob Child’s ar gyfer digwyddiadau nos a thymhorol. Cysylltwch â ni os hoffech fwy o wybodaeth.

_DSC0770_1093

Offer Ystafell Gynadledda a Llog Gwasanaethau

Offer Clyweledol
O £65
System sain yn cynnwys microffon
O £95
Gliniadur
£50
Microffon Ychwanegol
£35
Siart Droi ac Ysgrifbinnau
£20
Llwyfan (4’x6’4)
£20
Darllenfa
£20
Cyfieithu ar y Pryd
Pris ar Gais
Llungopïo
A4 am 20c y copi | A3 am 30c y copi

ARCHEBWCH NAWR

Mae Canolfan yr Halliwell Caerfyrddin yn lleoliad mawr gydag ystod eang o ystafelloedd yn
addas ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. Mae wedi’i leoli yng ngogledd y dref
gyda meysydd parcio ar y safle ac yn gyfleus i drafnidiaeth gyhoeddus.

cyCY