Diwrnod Eich Priodas

Mae ein lleoliadau unigryw yn cynnig lletygarwch hanesyddol, traddodiadol a gwresog, a hynny yng nghanol Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Os ydych yn cynllunio parti priodas mawr a moethus neu ddathliad agos atoch, bydd ein tîm o arbenigwyr cyfeillgar yn eich helpu i gynllunio pob manylyn er mwyn creu’ch diwrnod perffaith ac unigryw eich hun! Saif ein Lleoliadau oddi mewn i diroedd ysblennydd campysau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant â'u gerddi a'u terasau prydferth i ddal eich eiliadau arbennig. Mae gennym gyfleusterau ar gyfer gwleddau priodas mawr a digwyddiadau mawr gyda’r nos, barrau trwyddedig, staff penodedig, ac mae llety cyfyngedig ar gael ar y safle. Gall ein tîm arlwyo mewnol greu cinio bys a bawd, prydau â thri neu ragor o gyrsiau, bwyd stryd a rhagor, a phob un yn tynnu dŵr o’r dannedd. Gofynnwch am fanylion!

Mae gennym amrywiaeth o becynnau priodas sydd wedi’u llunio i gynnig rhywbeth at bob dant, neu gallwn weithio gyda chi i greu pecyn pwrpasol ar gyfer chi’ch dau. Drwy ffeiriau priodas niferus mae gennym ystod o gwmnïau lleol sy’n gallu helpu gydag addurno byrddau, addurniadau ac adloniant - pawb yn gweithio tuag at eich helpu chi i fwynhau eich diwrnod CHI hyd yn oed yn fwy.

Cliciwch yma i gael golwg ar ein Llyfryn Priodasau

Old Hall Wedding

Caerfyrddin

Mae’r Halliwell yn cynnig ystod o ystafelloedd sy’n ddelfrydol ar gyfer priodasau mawr a moethus neu dderbyniadau llai o faint, a mwy cartrefol.
Bydd hefyd cyfle i chi fwynhau golygfeydd hyfryd adeiladau hanesyddol y brifysgol yn ogystal a’i gerddi godidog.

LTH - Wedding  - Purple/Yellow

Seremonïau Priodas

Mae gan gampysau Caerfyrddin a Llambed eu Capel hanesyddol eu hunain ar dir y Brifysgol, gyda nenfwd cromennog ac organ odidog.

Maent ar gael ar gyfer Priodasau yn unol â defodau'r Eglwys yng Nghymru, yn amodol ar gyflawni'r gofyniad cyfreithiol i gael trwydded ar gyfer priodas yng Nghapel y Brifysgol.

Webp.net-resizeimage (36)

Lleoliadau Priodas

Rydym yn deall bod pob cwpl yn unigryw ac mae arnynt eisiau gwneud eu diwrnod yn unigol ac yn bersonol iddyn nhw. Bydd ein cydlynydd priodasau’n gweithio gyda chi ar bob manylyn o’ch priodas, o adeg ei harchebu, hyd at y diwrnod mawr.

DSC03095 (2)

Llambed

Lleoliad hanesyddol, a’r mwyaf o’i fath yng Ngheredigion, mae Llambed yn wirioneddol unigryw. Gyda’n profiad eang, sylw at fanylder a gwasanaeth cwsmeriaid gwych, mi wnewn ni sicrhau fod eich diwrnod arbennig yn un perffaith.

sign Trefin y gwasanaeth

Bwyta

Defnyddir y cynnyrch Cymraeg lleol gorau ar draws ein holl fwydlenni. I ddarganfod mwy o wybodaeth am ein hopsiynau ar y fwydlen, lawrlwythwch ein pamffled

"Yn ddiweddar, cynhaliwyd brecwast priodas a derbyniad nos fy merch a’m mab yng nghyfraith yma, ac roedd yn hyfryd. Roedd y tïm yn rhagorol, o’r cynllunio i’r diwrnod mawr ac roedd eu gwasanaeth heb ei ail. Digwyddodd ambell i beth annisgwyl ar y diwrnod megis gwesteion yn methu â mynychu ond fe ailosodwyd y byrddau yn gyflym ac yn effeithlon a doedd dim yn ormod iddynt. Roedd y bwyd yn fendigedig ac aeth y diwrnod heb un problem. Mi fyddwn yn bendant y neu hargymell."

ARCHEBWCH NAWR

Dewch i ddathlu eich diwrnod arbennig gyda Venue Cymru. Mi wnewn ni’n siwr fod pob dim yn berffaith ar gyfer eich diwrnod mawr.

cyCY